{ko: i ddangos ddarvod i forvydd roi i chred iddo}
1 Gwell yn niwedd phorfedd fug
2 no sorri'n wladaidd sarrug
3 da vydde vorvudd yw dyn
4 or diwedd hoen eiry dywyn
5 cred Eluned oleuni
6 a roes da i moes i mi
7 o drefn i llaw vodrwyvaich
8 o ddeheuwyd bryd a braich
9 y care vi rhi rhywogaeth
10 o chare'r ab i mab maeth
11 ysgwiwdwng yw os gwedir
12 ys gwynn yw vy myd os gwir
13 ni veddais vudd o gwblvodd
14 erioed er pann im rhoed rhodd
15 cystal a chael gan hael hwn
16 od ydiw yn rhodd didwnn
17 nid gem overedd gymwyll
18 nid bedw glynn nid tyllyn twyll
19 eurychwaith mab mair vwchaf
20 ai law noeth drwy olew naf
21 salm o Dduw ai inseiliawdd
22 yn grair oi neddair ai nawdd
23 a dogn vv a digon vydd
24 o gwlm rhwng pawb ai gilydd
25 a dwfn yr â a difyr
26 yn y tan y dyn ai tyrr
27 ar vav vinav ar vannwyl
28 a rois i vn gwiwlvn gwyl
29 [334] yn llw hydr yn lle hydraul
30 yn i llaw hi vnlliw haul
31 val y rhoed ym o rym rydd
32 yn y dwfr o enw Dauydd
33 gyrddwaew o serch iownserch ior
34 ar garv hoen eiry goror
35 a donioc vv'r greduniaeth
36 da i gwnn i a Duw ai gwnaeth
37 Ry wnaeth bvn a llun i llaw
38 rhoi dyrnaid a rhad arnaw
39 rheidlw perpheithdeg rhadlawn
40 rhinwedd y wirionedd iawn
41 llw Duw yn i llaw deau
42 llyna od gwnn llw nid gau
43 llawendwf yn llaw indeg
44 llw da ar hyd i llaw deg
45 llyfr cariad vydd i hadaf
46 yn benrhaith erbyn yr haf
47 yn yr oerddwr iddurddwyd
48 y llw a roes Morvudd llwyd
Dauid ap Gwilim